Gwerthfawrogi Hanes Pobl Dduon
Mae ein dinas hardd yn adnabyddus am ei grwpiau amrywiol o bobl. Mae'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd wrth galon y ddinas, gan ddarparu cymysgedd bwysig o ddiwylliant a phrofiadau!
Mae Mis Hanes Pobl Dduon, a ddathlir gan y DU ym mis Hydref, bob
amser yn gyfle gwych i ni gydnabod y cyfraniadau rhagorol y mae pobl
Affricanaidd a Charibïaidd wedi'u gwneud i'n cymuned fyd-eang dros nifer o genedlaethau.
O fusnes, y gyfraith ac addysg i dechnoleg, chwaraeon a'r celfyddydau
creadigol, rydym yn dathlu cyfraniadau amhrisiadwy'r gymuned ddu i'r byd.
Un o’r nifer o resymau rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon yw i anrhydeddu’r
etifeddiaeth a adawodd Americanwyr Affricanaidd ac integreiddio rhwymedigaethau
moesol y genedl a newid normau cymdeithasol. Mae'r mis hwn yn dathlu'r llwyddiannau
a'r brwydrau niferus yr aeth Americanwyr Affricanaidd drwyddynt i gael eu
rhyddhau o'r anghydraddoldeb a wynebent oherwydd eu hil.
Fel Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, rwy'n addo cefnogi'r
grwpiau lleiafrifoedd ethnig hynny.
Gweledigaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor Ieuenctid ar gyfer
2021:
· 1. Denu a
recriwtio o gronfa fawr ac amrywiol o dalent
· 2. Sicrhau
ddiwylliant gweithle cynhwysol
Rydyn ni eisiau -
· 1. Adeiladu
perthnasoedd â chymuned amrywiol
· 2. Denu,
recriwtio a chadw talent o gronfa dalent fwy
· 3. Gwrando
ar a deall safbwyntiau a phrofiadau unigryw pob aelod.
Fel Cyngor Ieuenctid, rydym yn falch o sefyll mewn undod â'r
gymuned ddu. Gofynnodd rhywun imi unwaith pam roeddwn i'n meddwl ei bod yn
bwysig gwrando ar leisiau grwpiau lleiafrifoedd ethnig ac roedd fy ateb yn syml
- mae penderfyniadau a wneir ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol yn cael
effaith gyfartal, os nad mwy, ar y rhai sy'n cael eu hystyried yn lleiafrif. Am
y rheswm hwn, mae'n hanfodol ein bod ni, fel cymuned ac fel Cyngor Ieuenctid,
yn ymdrechu i gynnwys pobl ifanc o bob cefndir yn ein gwaith oherwydd mae’n rhaid
i'n sefydliad gynrychioli ein dinas amrywiol.
Yn ystod y mis hwn o Hydref, ymunwch â ni i ddathlu hanes y gymuned
BAME wrth i ni anelu at eich addysgu a'ch hysbysu am rai digwyddiadau anhygoel.
Byddwn hefyd yn clywed gan rai arwyr lleol, yn ogystal â Chomisiynydd Heddlu a
Throsedd Gwent felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol!