Gwerthfawrogi Hanes Pobl Dduon

Mae ein dinas hardd yn adnabyddus am ei grwpiau amrywiol o bobl. Mae'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd wrth galon y ddinas, gan ddarparu cymysgedd bwysig o ddiwylliant a phrofiadau! Mae Mis Hanes Pobl Dduon, a ddathlir gan y DU ym mis Hydref, bob amser yn gyfle gwych i ni gydnabod y cyfraniadau rhagorol y mae pobl Affricanaidd a Charibïaidd wedi'u gwneud i'n cymuned fyd-eang dros nifer o genedlaethau. O fusnes, y gyfraith ac addysg i dechnoleg, chwaraeon a'r celfyddydau creadigol, rydym yn dathlu cyfraniadau amhrisiadwy'r gymuned ddu i'r byd. Un o’r nifer o resymau rydym yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon yw i anrhydeddu’r etifeddiaeth a adawodd Americanwyr Affricanaidd ac integreiddio rhwymedigaethau moesol y genedl a newid normau cymdeithasol. Mae'r mis hwn yn dathlu'r llwyddiannau a'r brwydrau niferus yr aeth Americanwyr Affricanaidd drwyddynt i gael eu rhyddhau o'r anghydraddoldeb a wynebent oherwydd eu hil. Fel Swyddog Cyd...